Daeth Huw Irranca-Davies yn Llywydd y Senedd yn dilyn etholiad mis Mai
Mae plaid Reform wedi dweud eu bod yn bwriadu cynnig pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies.
Mae boicot y blaid o drafodion siambr y Senedd wedi dod i ben, gydag Aelodau o'r Senedd y blaid yn cymryd eu seddi yn y siambr unwaith eto cyn y Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth.
Ond mae'r gwaharddiad sy'n atal Joe Martin AS rhag cyfrannu'n llawn yn y siambr yn parhau.
Gofynnwyd i Gomisiwn y Senedd, sy'n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd, am eu hymateb.
'Dwysáu'r sefyllfa'
Dywedodd Helen Jenner, arweinydd Reform yng Nghymru: "Doedden ni erioed eisiau gorfod boicotio trafodion y Senedd, ond mae rhyddid llefaru yn fater rhy bwysig i ni ildio arno.
"Yn dilyn trafodaethau gyda'r Llywydd, roeddem yn credu ein bod yn agosáu at ddatrysiad synhwyrol, a fyddai'n galluogi ein cydweithiwr, Joe Martin, i ddychwelyd i'r Siambr heb orfod ymddiheuro am yr araith a draddododd yn y Senedd.
"Mae wedi dod yn amlwg y bore yma nad yw'r Llywydd wedi bod yn negodi mewn ffydd dda, ac ei fod wedi newid ei feddwl ar yr eiliad olaf.
"Mae wedi cyfaddef wrthym fod ei benderfyniadau ar y mater hwn wedi cael eu dylanwadu gan deimladau sefydliadau allanol.
"Bellach, mae'n rhaid iddo egluro i bobl Cymru pa sefydliadau ydynt, a beth mae hynny'n ei olygu i ddemocratiaeth Cymru.
"Nid oes gennym ddewis bellach ond dwysáu'r sefyllfa hon.
"Byddwn yn awr yn cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Llywydd."
Cyhoeddodd Joe Martin, arweinydd Reform yng Nghymru Helen Jenner a phrif chwip y blaid, Llŷr Powell, y boicot yn wreiddiol ar risiau'r Senedd - mae'r boicot nawr ar ben
Dywedwyd wrth Martin na fyddai'n cael ei alw i siarad yn y Senedd nes iddo ymddiheuro am sylwadau a wnaeth ynghylch honiadau bod pobl wyn yn cael eu "disodli" yn y DU.
Dywedodd y Llywydd, Huw Irranca-Davies, fod y sylwadau a wnaed gan Joe Martin, aelod dros Gaerdydd Penarth, yn amlwg yn "wahaniaethol" ac yn "sarhaus".
Penderfynodd Reform beidio cyfrannu i ran fwyaf o drafodaethau y Senedd gan gynnal boicot o'r cyfarfod llawn.
Daeth y boicot i ben ddydd Mawrth.
Nid dyma'r tro cyntaf i Joe Martin wynebu beirniadaeth am ei sylwadau yn y Senedd.
Ym mis Mehefin, cafodd ei gyhuddo gan Blaid Cymru o ddefnyddio rhethreg beryglus ar ôl honni bod ymosodiadau gan geiswyr lloches o Swdan yn anochel.
Y diwrnod canlynol, gadawodd Aelodau'r Senedd y Siambr yn ystod araith ganddo ar ôl iddo wneud sylwadau cellweirus fod myfyrwyr o Gymru yn methu darllen a bod nyrsys o India yn cymryd swyddi pobl Cymru.
Yn ddiweddarach, cafodd ei feirniadu eto gan y Llywydd am sylwadau sarhaus yn ystod dadl am Wasanaeth Rhywedd Cymru, sydd wedi bod yn wynebu argyfwng.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




